Bod yn rhan o ymchwil iechyd a gofal sy’n newid bywydau

Mae Be Part of Research yn wasanaeth am ddim sy’n helpu pobl i ddod o hyd i ymchwil iechyd a gofal hanfodol ledled y DU a chymryd rhan ynddi.

Cofrestrwch eich manylion er mwyn cael eich paru ag astudiaethau ymchwil addas – yna penderfynwch a hoffech chi gymryd rhan.

Cofrestru nawr

Fideo: Be Part of Research

Dysgwch fwy am gymryd rhan mewn ymchwil ar Be Part of Research.

'Take part in health research with Be Part of Research' - video transcript

  • YouTube link to video - this video is 85 seconds long
  • Video description - Be Part of Research is a free 'matchmaking' service that helps you take part in research based on the health conditions you are interested in. Find out how the service works and how it makes taking part in research easy.

Accessibility - visual-only features

The following features are present in this video to enhance the visual production. All essential information that is needed to understand the context of this video is available through the video's audio content or the descriptive transcript:

  • Background music
  • Animated characters representing members of the public taking part in research and signing up to the Be Part of Research service
  • Logos
  • Written extracts from the video's audio

Descriptive transcript

0:00 - Title frame

0:05 - Audio

Be Part of Research, makes it easy to find and take part in health and care research.

When signing up online you'll join a growing group of people volunteering to improve healthcare across the UK.

From cancer, diabetes to heart disease, research is key to developing new treatments and finding better ways to manage health conditions for all.

0:19 - Visual only

Animated hand holding a cell phone. The cell phone screen shows three icons depicting a brain, a heart and a pair of lungs. The woman selects the heart icon.

0:28 - Audio

To help us find the right study for you, we'll ask you for some basic information, such as your age, ethnicity and where you live.

You can also tell us which areas of research you're interested in.

You can take part with or without a health condition.

Simply select 'healthy volunteer' when creating your account.

0:44 - Visual only & onscreen text

Animated characters at a bus stop using cell phones. Text above the woman on the left says “Healthy” with a green checkmark. Text above the woman on the right says “Eczema” with a green checkmark.

0:46 - Audio

You'll then get matched to suitable studies in your area.

We'll send the details straight to your inbox, so you can decide whether to take part.

0:49 - Visual only & onscreen text

Animated character selects the heart icon in a database of users. He hits the send button. The text “Email Received” is displayed on the animated computer screen.

The character clicks on the text and an email from NIHR’s Be Part of Research is displayed.

0:55 - Audio

From online surveys to clinical trials, there are many types of research you can take part in.

0:55 - Visual only & onscreen text

Image of characters taking part in an online survey, receiving an MRI scan and receiving a vaccine.

1:00 - Audio

Taking place at local hospitals, GP surgeries and even at home. Join Be Part of Research today and make a difference to the health and care of tomorrow.

1:11 - Closing frame

  • Top of frame - Be Part of Research logo and NHS logo
  • Middle of frame - the Be Part of Research URL - bepartofresearch.uk

1:19 - Closing frame

Beth yw Be Part of Research?

Mae Be Part of Research yn wasanaeth ar-lein sy’n ei gwneud hi’n hawdd i chi ddod o hyd i ymchwil iechyd a gofal a chymryd rhan ynddi. Mae’r gwasanaeth yn helpu pobl i ddeall beth yw ymchwil a’r hyn allai ei olygu i gymryd rhan, ac mae’n dangos yr ymchwil sy’n digwydd ledled y DU ar hyn o bryd.

Cofrestrwch ar gyfer cyfrif Be Part of Research am ddim a dewiswch y meysydd ymchwil iechyd a gofal y mae gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan ynddynt. Yna cewch eich paru ag astudiaethau addas a byddwn yn anfon gwybodaeth glir atoch am sut y gallwch chi gymryd rhan.

Gallwch chi hefyd chwilio am dreialon ac astudiaethau i gyflyrau iechyd y mae gennych ddiddordeb ynddynt, mewn lleoliadau yn agos atoch chi.

Sut mae Be Part of Research yn gweithio?

Rydym wedi gwneud yn siŵr ei bod hi’n hawdd cymryd rhan mewn astudiaethau. Gall ein gwasanaeth “paru ag ymchwil” am ddim eich helpu i ddod o hyd i’r ymchwil iawn i chi a chymryd rhan ynddi:

  1. Creu eich cyfrif

    Cofrestrwch eich manylion a dewiswch y cyflyrau iechyd y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

    Gallwch chi hefyd gofrestru â Be Part of Research gan ddefnyddio eich NHS login.

  2. Cael eich paru ag astudiaethau

    Byddwn yn anfon manylion astudiaethau sydd wedi’u cymeradwyo’n llawn sy’n cyfateb i’ch diddordebau a’ch cyflwr/cyflyrau iechyd atoch drwy e-bost.

  3. Cymryd rhan os byddwch yn dewis gwneud hynny

    Chi sy’n penderfynu a hoffech gymryd rhan bob amser. Cyn cofrestru ag astudiaeth, byddwch chi hefyd yn trafod y cyfle gyda’r tîm ymchwil. Bydd y tîm yn cadarnhau bod yr astudiaeth yn iawn i chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych.

Pwy all gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal?

P’un a oes gennych chi gyflwr iechyd ai peidio, gallwch chi helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o drin clefydau, a gwella gofal drwy gymryd rhan mewn ymchwil.

Gallwn eich helpu i ddod o hyd i astudiaethau pwysig sy’n ymwneud â’r rhan fwyaf o gyflyrau iechyd, a chymryd rhan ynddynt.

Mae angen pobl sydd â chyflyrau iechyd a phobl heb gyflyrau iechyd ar lawer o astudiaethau. Felly hyd yn oed os nad oes gennych chi ddiagnosis, gallwch chi gofrestru â Be Part of Research o hyd a gwneud gwahaniaeth.

I fwrw ati gyda Be Part of Research, mae angen i chi fod yn 18 oed neu drosodd ac yn byw yn y DU.

Cyfarfod â’n gwirfoddolwyr

Pwy sy’n rhedeg Be Part of Research?

Mae Be Part of Research yn wasanaeth ledled y DU, sy’n cael ei redeg gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), mewn cydweithrediad â’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ariennir Be Part of Research gan lywodraeth y DU, drwy’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC).

Cenhadaeth NIHR yw gwella iechyd a chyfoeth y genedl drwy ymchwil.

Gwybodaeth am gymryd rhan

Diogelwch wrth gymryd rhan

Caiff pob un o’r astudiaethau ar Be Part of Research eu rheoleiddio a’u rheoli’n drylwyr er mwyn diogelu cyfranogwyr. Byddwch yn cael gwybod popeth mae’r ymchwilwyr yn ei wybod am y risgiau a’r sgil-effeithiau posibl, er mwyn i chi allu gwneud dewis gwybodus ynghylch a ydych eisiau cymryd rhan.

Mae’n fwy cyfleus nag ydych chi’n ei feddwl

Mae ymchwil yn cael ei chynnal mewn llawer o leoedd gan gynnwys ysbytai’r GIG, clinigau meddygon teulu, neu weithiau yn eich cartref eich hun. Mae llawer o wahanol fathau o astudiaethau hefyd y mae angen treulio gwahanol gyfnodau o amser yn cymryd rhan ynddynt. Penderfynwch beth sy’n gweithio orau i chi ac yna dewch o hyd i astudiaethau sy’n cyd-fynd â’ch amserlen.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol

Mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau ar Be Part of Research yn ddi-dâl ac maent yn dibynnu ar gyfranogiad gwirfoddolwyr o bob cwr o’r DU. Gall eich costau teithio gael eu had-dalu felly mae’n werth siarad â thîm yr astudiaeth ynglŷn â’r ad-daliadau sydd ar gael. Drwy gymryd rhan mewn ymchwil, byddwch yn helpu i wella gofal a thriniaethau nawr – ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.